Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 29
Mawrth 2022
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Mae'r Llywydd wedi penderfynu y bydd Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A-D, yn gallu pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddull electronig.
1 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
2 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
3 Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Covid-19 - TYNNWYD YN ÔL
(0 munud)
4 Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Diweddariad ar Ddiogelwch Adeiladau - TYNNWYD YN ÔL
(0 munud)
5 Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun Cartrefi i ffoaduriaid Wcráin
(30 munud)
6 Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Diwygio Ardrethi Annomestig
(30 munud)
7 Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Diogelwch Tomenni Glo
(45 munud)
8 Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Gwaith Teg: diweddariad blynyddol ar gynnydd
(30 munud)
9 Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Diwygiadau sy’n Ymwneud â Chyhoeddi Gwybodaeth) (Cymru) 2022
(15 munud)
NDM7966 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Diwygiadau sy’n Ymwneud â Chyhoeddi Gwybodaeth) (Cymru) 2022 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Mawrth 2022.
Dogfennau
Ategol
Memorandwm
Esboniadol
Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad
Cynnig i atal Rheolau Sefydlog (5 munud)
NNDM7977 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i) a'r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y datganiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM7975 a NNDM7976 gael eu hystyried yn y Cyfarfod Llawn ar 29 Mawrth 2022.
Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar eitemau 10 - 12 gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (30 munud)
10 Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Newid Dyddiad Dod i Ben) (Cymru) 2022
NDM7967 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Newid Dyddiad Dod i Ben) (Cymru) 2022 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Mawrth 2022.
Dogfennau
Ategol
Memorandwm
Esboniadol
11 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2022
NNDM7975 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2022 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Mawrth 2022.
Dogfen
Ategol
Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad
12 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) 2022
NNDM7976 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
2. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) 2022 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Mawrth 2022.
Dogfen
Ategol
Adroddiad y
pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad
Cynnig i atal Rheolau Sefydlog
NNDM7974 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i) i ganiatáu i NNDM7973 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth, 29 Mawrth 2022.
13 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Adeiladau
(30 munud)
NNDM7973 Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Diogelwch Adeiladau i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Gorffennaf 2021 a gosodwyd Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Medi 2021, 20 Ionawr 2022, 22 Chwefror 2022 a 25 Mawrth 2022 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Y Bil Diogelwch Adeiladau (Saesneg yn unig)
Dogfennau
Ategol
Adroddiad y
Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Cynnig Cydsyniad
Deddfwriaethol a Memorandwm Rhif 2)
Adroddiad y
Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Memorandwm Rhif 3 a Rhif
4)
Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
(Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol a Memorandwm Rhif
2)
Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
(Memorandwm Rhif 3 a Rhif 4)
14 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Etholiadau
(15 munud)
NDM7968 Mick Antoniw (Pontypridd)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Etholiadau i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Medi 2021 a 22 Mawrth 2022, yn y drefn honno, yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Dogfen
Ategol
Adroddiad y
Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai (Cynnig Cydsyniad
Deddfwriaethol)
Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
(Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol)
15 Cyfnod pleidleisio
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 30 Mawrth 2022